Cookies on oxfam

We use cookies to ensure that you have the best experience on our website. If you continue browsing, we’ll assume that you are happy to receive all our cookies. You can change your cookie settings at any time.

Find out more

Oxfam Cymru

Rydym yn gweithio i roi terfyn ar dlodi, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i sicrhau bod hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Dewch at eich gilydd a chefnogwch ferched ledled y byd

Posted by Clare Rudall

22nd Jan 2013

Dewch at eich gilydd a chefnogwch ferched ledled y byd

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth 2013 a thrawsffurfio bywydau merched sy'n byw mewn tlodi ledled y byd.

Bydd miloedd o bobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn dod ynghyd â ffrindiau, cydweithwyr a'r rhai sy'n annwyl ganddyn nhw i wneud beth maen nhw'n ei hoffi - gan godi arian i Oxfam yr un pryd.

Fyddwch chi'n ymuno â nhw? Gallech gynnal noson ffilmiau gartref, cystadleuaeth goginio yn y gwaith neu ddosbarth ymarfer corff yn eich cymuned.  Beth bynnag rydych chi'n hoffi ei wneud, gwnewch hynny er budd merched ledled y byd.

Beth yw diben y cyfan?

Trais domestig. Gwahaniaethu. Diffyg addysg. Dyma rai o'r rhesymau pam mae miliynau o ferched ledled y byd yn byw mewn tlodi.

Yn aml, mae gan ferched lai o adnoddau, llai o hawliau a llai o gyfleoedd na dynion i wneud penderfyniadau sy'n dylanwadu ar gwrs eu bywyd. A phan ddaw argyfyngau, y nhw sy'n cael eu heffeithio fwyaf.  Rydym yn cefnogi merched i sicrhau eu hawliau a gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Fe wnawn ni eu grymuso a'u galluogi i weithio eu ffordd allan o dlodi - gan drawsffurfio cymunedau cyfan.

Dechreuwch gynllunio eich digwyddiad Oxfam Get Together heddiw:

Beth wnewch chi?

  • Gartref - cynhaliwch noson cyfnewid dillad, swper neu noson o faldod
  • Yn y gwaith - heriwch gydweithwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio, neu trefnwch ddiwrnod cwrdd i ffwrdd i'r tîm
  • Yn eich cymuned - cynhaliwch gwis tafarn, dosbarth celf neu fore coffi
  • Yma ac acw - trefnwch bryd o fwyd gyda ffrindiau yn eich hoff fwyty

Cofrestrwch nawr i gael eich pecyn codi arian am ddim, ac fe anfonwn bosteri, balwnau, matiau diod a baneri bychain atoch chi. www.oxfam.org.uk/gettogether

Blog post written by Clare Rudall

More by Clare Rudall

Comments