Pe bai pawb cyfoethog yn talu eu trethi...
Posted by
Luned Jones Media and Communications Officer, Wales
31st Jan 2013
Os ydych yn un o'r rhai sy'n gorfod llenwi'r ffurflen dreth, heddiw, (sef 31 Ionawr) yw'r dyddiad cau i roi eich ffurflen i Gyllid y Wlad.
Mae Oxfam Cymru yn defnyddio'r dyddiad hwn fel cyfle i'n hatgoffa o'r twll enfawr sydd yn yr economi o ganlyniad i'r bobl gyfoethog hynny sy'n gyndyn o dalu eu trethi, ac sy'n gwneud popeth allan nhw, a hynny'n anghyfreithlon, er mwyn ceisio eu hosgoi. Mae cyfrifiadau diweddaraf yr elusen o'r farn fod y rhai hynny sy'n osgoi talu eu trethi yn amddifadu economi'r Deyrnas Unedig o £5.2 biliwn y flwyddyn o leiaf.
Dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru: "Y bobl dlotaf yng Nghymru sy'n teimlo ergyd y camau cynilo waethaf, ond, pe bai'r holl bobl gyfoethog yn talu eu trethi'n llawn ni fyddai hynny'n wir."
Pe bai'r £5.2 biliwn yn cael ei dalu i'r dyn treth a'i rannu'n deg ymysg y bobl dlotaf yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, o bosib, byddai'n :
- Darparu dros £1000 y flwyddyn i wella effeithlonrwydd ynni ym mhob cartref yng Nghymru a'r DU sy'n dioeddef o dlodi tanwydd
- Neu, dyblu'r hawliau gofal plant cyffredinol i 25 awr yr wythnos, er mwyn galluogi'r teuluoedd hynny sy'n cael anhawster cael dau ben llinyn ynghyd byw i fynd i weithio
- Neu, rhoi £180 y flwyddyn sy'n ddyledus i 9.4 miliwn o gartrefi'r Deyrnas Unedig drwy ddileu'r cynlluniau i osod cap 1 y cant ar uwchraddio'r system lles.
Dywedodd Angela Morgan, 44 oed o'r Coed-duon, dynes sydd wedi bod yn talu ei threthi trwy gydol ei hoes, ond sydd bellach yn gorfod hawlio budd-daliadau o ganlyniad i gyflwr iechyd hirdymor difrifol:
"Mae llawer o bethau o'i le ar y system dreth yn y wlad hon."
Ychwanegodd Julian Rosser: "Mae biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i'r Llywodraeth yn cael eu cadw mewn cyfrifon banc alltraeth, gan adael i'r bobl gyffredin geisio talu am y gefnogaeth a'r gwasanaethau y mae pawb ohonom yn dibynnu arnyn nhw."
"Pam na ddylai osgowyr trethi ddod o dan y lach pan mae miloedd o deuluoedd tlotaf Cymru yn cael eu gorfodi i ddefnyddio'r banc bwyd er mwyn bwydo eu plant, neu fyw heb wres a hithau'n rhewi tu allan?"