
Mae amrediad o ddefnyddiau Cymraeg ar gael, gan gynnwys adnoddau ar-lein am ddim, ynghyd â llyfrynnau gweithgareddau ar gyfer ein hadnoddau mwyaf poblogaidd.

Mae Oxfam a’r Adran er Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi cynhyrchu llyfrynnau RHAD AC AM DDIM o daflenni-gwaith ar gyfer disgyblion i’w defnyddio ynghyd â phedwar o’n hadnoddau addysgol mwyaf poblogaidd. Gallwch gael copïau rhad ac am ddim o’r llyfrynnau gweithgareddau yn y Gymraeg trwy gysylltu â’r Tîm Addysg Datblygu yng Nghymru.
O Fanana i Fan Yna! - Trydydd Rhifyn (addas ar gyfer plant 7-11 oed)
Mae’r pecyn ffotograffau poblogaidd yma sy’n dilyn taith banana o’r Caribî i’r DU yn cynnwys dilyniant o ffotograffau lliw. Mae hefyd yn cynnwys amrediad o weithgareddau ar gyfer dosbarth cyfan, grŵp bach neu waith unigol, gan ddefnyddio lluniau, mapiau a chyfoeth o wybodaeth ar gynhyrchu bananas.
Eich Byd, Fy Myd - Pecyn Adnoddau lluniau ‘Wake up World’ ar gyfer Dinasyddiaeth, Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Datblygiad Personol (addas ar gyfer plant 4-9 oed)
Gall disgyblion archwilio yr hyn sy’n ffurfio eu hunaniaeth, pwysigrwydd teulu a ffrindiau, a’u rôl mewn gofalu am a helpu eraill trwy edrych ar hanes pedwar o blant o wahanol rannau o’r byd. Mae’r llyfryn ar gyfer athrawon yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r plant y cyfeirir atynt (o Ethiopia, India, Brasil a Rwsia), ynghyd â gweithgareddau sydd eisoes wedi cael eu profi i weithio, er mwyn clymu’r materion a gaiff eu codi gan yr achosion a ddisgrifir i fywydau’r disgyblion eu hunain.
Delio â Thrychinebau – Addysgu am drychinebau a datblygiad ar gyfer disgyblion 11 i 16 oed
Pam fod trychinebau’n digwydd? A ellir eu hatal? Beth ellir ei wneud i helpu? Mae Ymdrin â Thrychinebau yn cynnwys gwybodaeth gefndir a gweithgareddau ar gyfer ymchwilio i achosion o ddaeargryn, llifogydd, corwyntoedd ac argyfwng bwyd. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys lluniau du a gwyn o’r ansawdd uchaf, ynghyd ag astudiaethau o achosion diweddar o Fangladesh, Swdan a’r DU.
Datblygu Hawliau - Dysgu ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau ar gyfer oedran 11-14
Mae’r llyfryn hwn ar gyfer athrawon, sy’n seiliedig ar weithgareddau, yn dechrau gyda’r pryderon sydd gan bobl ifanc, ac yn edrych arnynt yn nhermau materion hawliau, a’u gosod mewn cyd-destun cymdeithasol a byd-eang. Mae’n helpu pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb dros fynnu hawliau iddynt hwy eu hunain ac i eraill, a dysgu oddi wrth enghreifftiau pobl ifanc yn y DU, Libanus, De Affrica, Ethiopia a Brasil.
Mae’r adnodd yma yn edrych yn fanwl ar y materion daearyddol, economaidd, moesol ac egwyddorol sy’n ymwneud â globaleiddio. Mae’n cynnwys gwybodaeth gefndir, astudiaethau o achosion, taflenni gwaith a gêm ffugio. Ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg