Diolch i bawb yng Nghymru a gynhaliodd Oxfam Get Together i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a chodi arian i drawsffurfio bywydau merched sy'n byw mewn tlodi o amgylch y byd. Fe wnaeth un a gynhaliodd Get Together, Sian Jones o'r Wyddgrug, ddweud "Fe wnaeth y syniad o gefnogi merched yn neilltuol roi nod benodol iawn i'n digwyddiad, a gwneud i ni deimlo'n rhan o gymuned fyd-eang, felly diolch i chi am y cyfle...
Read more
Cychwynnodd prosiect o'r planhigyn i'r plât yn y rhandir yn Nhŷ Tredegar ddydd Mercher. Cawsom gwmni tri o'r teuluoedd sy'n cefnogi drwy Brosiect Tlodi yn y Deyrnas Unedig Oxfam yng Nghyswllt Cymunedol y Dyffryn, ac fe aethon nhw ati'n frwd i weithio.
"Fe wnaethon nhw gyflawni llawer yn ystod y diwrnod cyntaf ar y safle - gosod wyth gwely plannu wedi'u codi yn eu lle, a hau hadau yn y tŷ gwydr. Roedd ymdeimlad...
Read more
Mae ffigyrau newydd a ryddhawyd yr wythnos hon gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos fod nifer y bobl sy'n troi at fanciau bwyd yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 120% llynedd. Ers mis Ebrill 2012, mae 35,000 o bobl wedi mynd i fanc bwyd i gael cyflenwad o fwyd mewn argyfwng. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cael cefnogaeth gan Raglen Tlodi yn y Deyrnas Unedig Oxfam.
Dywedodd Pennaeth Oxfam Cymru, Julian Rosser, wrth newyddiadurwyr:...
Read more
Ar ddechrau'r mis hwn, bydd Oxfam yn lansio un o raglenni ffyddlondeb mwyaf y Deyrnas Unedig. Drwy ymuno â Nectar, bydd Oxfam yn rhoi cyfle i'w cwsmeriaid gasglu pwyntiau ar yr eitemau maent wedi eu rhoi i siopau Oxfam!
O ddydd Iau, 4 Ebrill, bydd cwsmeriaid sy'n ymuno â Tag ar eich Bag, cynllun Rhodd Cymorth Oxfam, (mae Rhodd Cymorth yn caniatáu i elusennau adennill treth o 25% ar y cyfraniadau sy'n cael eu rhoi gan drethdalwyr...
Read more
Yr wythnos yma, mae Kate Anderson, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn tipyn o her i godi arian i Oxfam. Dyma ei stori yn ei geiriau ei hun.
"Yr wythnos yma, rwy'n 'Byw am bunt'. O ddydd Llun I ddydd Gwener, rwy'n gwario dim mwy na £5 ar fy holl fwyd a diod i gyd. Rwy'n ymuno a 20,000 o bobl dros tair cyfandir fydd yn derbyn yr her i Fyw am bunt eleni. Drwy gael fy noddi i brofi yn wirfoddol...
Read more
Pwy yw fy ffrind? Pwy yw fy nghymydog? Dyletswydd pob un ohonom yw bod yn ffrind ac yn gymydog da.
Grwpiau bychan o ffrindiau a chymdogion yw'r elusen FAN - neu bobl sy'n siŵr o ddod yn ffrindiau mewn dim o dro. Mae ymuno â'r grŵp FAN yn gyfle delfrydol i gyfarfod trigolion eraill yn eich cymuned. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau cyfarfod pobl newydd yn ogystal â gwella eu sgiliau Saesneg os ydynt yn dysgu'r...
Read more